Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
 


327(v2)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.

Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

(30 munud)

NDM7576 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a osodwyd gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2021, yn cael eu dirymu.

 

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant

(30 munud)

NDM7610 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2021.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar ddeisebau ynghylch rhaglen frechu COVID-19

(30 munud)

NDM7608 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â’r rhaglen frechiadau COVID-19:

a) Deiseb ‘P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth’ a gasglodd 10,879 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19’ a gasglodd 16,288 o lofnodion.

</AI8>

<AI9>

P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

 

</AI9>

<AI10>

P-05-1119  Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19'

 

</AI10>

<AI11>

8       Dadl ar ddeisebau ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre

(30 munud)

NDM7609 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre:

a) Deiseb ‘P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig’ a gasglodd 5,348 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol’ a gasglodd 11,392 o lofnodion.

</AI11>

<AI12>

P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig

 

</AI12>

<AI13>

P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol

 

</AI13>

<AI14>

9       Dadl y Grwp Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Buddsoddiad mewn ysgolion.

(30 munud)

NDM7606 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y diffyg buddsoddi mewn seilwaith ysgolion dros y degawdau diwethaf wedi golygu nad yw llawer o ysgolion yn addas at y diben.

2. Yn croesawu buddsoddiadau diweddar fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond yn gresynu at y ffaith bod awdurdodau lleol yn eu defnyddio fel cyfrwng i uno ysgolion.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar greu ysgolion mawr iawn sy'n niweidiol i brofiad dysgu pobl ifanc;

b) sicrhau nad yw awdurdodau addysg lleol yn defnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion cymunedol; a

c) cyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i sicrhau nad oes rhaid i ddisgyblion ysgol deithio mwy na 15 munud mewn car neu ar gludiant cyhoeddus i fynychu eu hysgol agosaf.

Cyflwynwyd y gwelliannu a ganlyn:

 

Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.

2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.   

3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.

4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;

b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;

c)  yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a

d)   yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.

Cod trefniadaeth ysgolion

Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2  Mark Isherwood (Gogledd Cymru

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar danariannu disgyblion yng Nghymru;

b) darparu cyllid teg i awdurdodau lleol i ddiogelu ysgolion gwledig;

c) cyflwyno prosiectau yng ngham B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif i ddechrau ailadeiladu Cymru;

d) sicrhau bod pob ysgol newydd yn cael ei chynllunio mewn ffordd sy'n ymwybodol o anabledd;

e) gwrthsefyll creu ysgolion mawr iawn a sicrhau nad oes unrhyw ysgol yn cael ei chau yn erbyn dymuniadau'r gymuned;

f) sicrhau na all awdurdodau addysg lleol ddefnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion lleol; a

g) cynnal archwiliad ledled Cymru o gyflwr yr ystâd bresennol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

 

 

 

</AI14>

<AI15>

10    Cyfnod pleidleisio

 

</AI15>

<AI16>

11    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7607 Nick Ramsay (Mynwy)

Addasu tai Cymru nawr ar gyfer pobol sydd yn byw gyda Clefyd Motor Niwron: sut allwn ni wneud yn sicr fod pobl sydd yn byw gyda MND yn cael cartrefi diogel a hygyrch, gan gadw eu annibyniaeth, urddas ag ansawdd bywyd.

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Mawrth 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>